Cyngor Dyled

Gall dyled cael effaith llethol ar unigolion neu deuluoedd. Efallai eich bod wedi drysu ac yn teimlo’n gaeth i amserlen talu afrealistig, galwadau ffôn a llythyrau ymosodol, neu fygythiad gweithrediadau beilïaid.

Mae ei’n cyngor ni ar gael i unrhyw un sy’n byw neu gweithio yng Nghaerdydd. Rydym ni yn cynnig cyngor ymarferol i'ch helpu delio gydag eich dyledion, gweithio tuag at ddod yn ddiddyled ac aros yn ddiddyled. Yr ydym yn gallu trafod gyda chredydwyr ar eich rhan a thywys chi trwy’r broses o gael gwared ag eich dyled unwaith ac am byth.

Galwch ni heddiw ar 029 2045 3111 neu e-bostiwch at info@speakeasy.cymru

Green 2.jpg

cael rheolaeth

Y cam cyntaf bob amser yw'r anoddaf, ond gallwn eich helpu i ddeall yn union faint sy'n ddyledus gennych. Byddwn yn eich helpu i lunio cyllideb fforddiadwy fel y gallwch weld ble mae'ch arian yn mynd.

Blue 2.jpg

negodi

Byddwn yn cysylltu â'ch credydwyr ar eich rhan i drefnu taliadau fforddiadwy a rhewi llog i roi rhywfaint o le i chi anadlu. Byddwn yn eich helpu i roi diwedd ar y galwadau ffôn cyson a bygythiad beilïaid.

Pink 2.jpg

dileu

Byddwn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ar y ffordd orau o glirio'ch dyled am byth. I rai, bydd yn gynllun talu fforddiadwy, i eraill fel Gorchymyn Rhyddhad Dyled neu fethdaliad trwy ein cyfryngwyr mewnol.